Joshua 13:8 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Gyda'r rhai y derbyniodd y Reubeniaid a'r Gadiaid eu hetifeddiaeth, yr hon a roddodd Moses iddynt hwy, o'r tu hwnt i'r Iorddonen, tua'r dwyrain, fel y rhoddes Moses gwas yr ARGLWYDD iddynt;
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd hanner llwyth Manasse, a llwythau Reuben a Gad wedi derbyn tir i'r dwyrain o'r Afon Iorddonen. Roedd Moses, gwas yr ARGLWYDD, wedi rhoi y tir hwnnw iddyn nhw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Y mae hanner arall y llwyth, a hefyd Reuben a Gad, wedi cymryd yr etifeddiaeth a roddodd Moses iddynt i'r dwyrain o'r Iorddonen, fel yr oedd ef, gwas yr ARGLWYDD, wedi ei nodi ar eu cyfer: