Joshua 14:1 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Dyma hefyd y gwledydd a etifeddodd meibion Israel yng ngwlad Canaan, y rhai a rannodd Eleasar yr offeiriad, a Josua mab Nun, a phennau‐cenedl llwythau meibion Israel, iddynt hwy i'w hetifeddu.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma gofnod o'r ffordd gafodd y tir yn Canaan ei rannu rhwng pobl Israel gan Eleasar yr offeiriad, Josua fab Nwn ac arweinwyr llwythau Israel.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dyma'r tiroedd a gafodd yr Israeliaid yn etifeddiaeth yng ngwlad Canaan oddi ar law yr offeiriad Eleasar, a Josua fab Nun, a'r pennau-teuluoedd ymysg llwythau'r Israeliaid.