Joshua 14:4 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys meibion Joseff oedd ddau lwyth, Manasse ac Effraim: am hynny ni roddasant ran i'r Lefiaid yn y tir, ond dinasoedd i drigo, a'u meysydd pentrefol i'w hanifeiliaid, ac i'w golud.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd disgynyddion Joseff, ar y llaw arall, yn cael eu cyfrif fel dau lwyth — Manasse ac Effraim. Doedd llwyth Lefi ddim i gael tir. Roedden nhw i gael rhai trefi arbennig i fyw ynddyn nhw, gyda'r tir o'u cwmpas yn borfa i'w hanifeiliaid.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr oedd disgynyddion Joseff yn ddau lwyth, Manasse ac Effraim. Ni roddwyd cyfran yn y tir i'r Lefiaid ac eithrio trefi i fyw ynddynt a phorfeydd ar gyfer eu gyrroedd a'u preiddiau.