Joshua 14:6 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna meibion Jwda a ddaethant at Josua yn Gilgal: a Chaleb mab Jeffunne y Cenesiad a ddywedodd wrtho ef, Tydi a wyddost y gair a lefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses gŵr DUW o'm plegid i, ac o'th blegid dithau, yn Cades‐Barnea.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan oedden nhw yn Gilgal, dyma ddynion o lwyth Jwda yn mynd i weld Josua. Caleb fab Jeffwnne y Cenesiad oedd yn siarad ar eu rhan, ac meddai, “Ti'n cofio beth ddwedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, dyn Duw, amdanon ni'n dau, yn Cadesh-barnea.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Daeth llwyth Jwda gerbron Josua yn Gilgal, a dywedodd Caleb fab Jeffunne'r Cenesiad wrtho, "Gwyddost yr hyn a ddywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses gu373?r Duw amdanom ni'n dau yn Cades-barnea.