Joshua 14:9 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A Moses a dyngodd y diwrnod hwnnw, gan ddywedyd, Diau y bydd y wlad y sathrodd dy droed arni, yn etifeddiaeth i ti, ac i'th feibion hyd byth; am i ti gyflawni myned ar ôl yr ARGLWYDD fy NUW.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A'r diwrnod hwnnw dyma Moses yn addo ar lw: ‘Bydd y tir lle buoch chi'n cerdded yn cael i roi i ti a dy deulu am byth, am dy fod ti wedi bod yn ffyddlon i'r ARGLWYDD dy Dduw.’
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
ac fe addawodd Moses imi y diwrnod hwnnw: 'Yn sicr, etifeddiaeth i ti ac i'th blant am byth fydd y tir y bydd dy droed yn sangu arno, am iti lwyr ddilyn yr ARGLWYDD, fy Nuw.'