Joshua 15:10 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r terfyn sydd yn amgylchu o Baala tua'r gorllewin, i fynydd Seir, ac sydd yn myned rhagddo at ystlys mynydd Jearim, o du y gogledd, honno yw Chesalon, ac y mae yn disgyn i Beth‐semes, ac yn myned i Timna.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Wedyn roedd yn troi i'r gorllewin o Baäla i gyfeiriad Mynydd Seir, ac yn croesi i dref Cesalon ar lethr gogleddol Mynydd Iearim, cyn mynd i lawr i Beth-shemesh a chroesi i Timna.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
O Baala yr oedd y terfyn yn troi tua'r gorllewin at Fynydd Seir ac yn croesi llechwedd gogleddol Mynydd Jearim, sef Cesalon, cyn disgyn at Beth-semes ac ymlaen at Timna.