Joshua 15:16 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A dywedodd Caleb, Pwy bynnag a drawo Ciriath‐Seffer, ac a'i henillo hi; iddo ef y rhoddaf Achsa fy merch yn wraig.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd Caleb wedi dweud, “Bydd pwy bynnag sy'n ymosod ar dref Ciriath-seffer ac yn ei choncro yn cael priodi fy merch Achsa.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dywedodd Caleb, "Pwy bynnag a drawo Ciriath-seffer a'i hennill, fe roddaf fy merch Achsa yn wraig iddo."