Joshua 15:18 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phan ddaeth hi i mewn ato ef, yna hi a'i hanogodd ef i geisio gan ei thad faes: ac a ddisgynnodd oddi ar yr asyn. A dywedodd Caleb wrthi, Beth a fynni di?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan briododd hi Othniel, dyma hi'n ei berswadio i adael iddi ofyn i'w thad am fwy o dir. Wrth iddi ddod i lawr oddi ar gefn ei hasyn, dyma ei thad Caleb yn gofyn iddi, “Beth sy'n bod?”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pan ddaeth hi ato, fe'i hanogodd i geisio tir amaeth gan ei thad. Wedi iddi ddisgyn oddi ar yr asyn, gofynnodd Caleb iddi, "Beth a fynni?"