Joshua 15:3 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac yr oedd yn myned allan o'r deau hyd riw Acrabbim, ac yr oedd yn myned rhagddo i Sin, ac yn myned i fyny o du y deau i Cades‐Barnea; ac yn myned hefyd i Hesron, ac yn esgyn i Adar, ac yn amgylchynu i Carcaa.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
heibio i'r de o Fwlch y Sgorpion, ar draws i Sin ac yna i'r ochr isaf i Cadesh-barnea. Yna roedd yn croesi i Hesron, ac yn mynd i fyny i Adar, cyn troi i gyfeiriad Carca.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
ac ymlaen i'r de o riw Acrabbim heibio i Sin, yna i fyny i'r de o Cades-barnea, heibio i Hesron, i fyny at Addar ac yna troi am Carca.