Joshua 15:7 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r terfyn hwn oedd yn myned i fyny i Debir o ddyffryn Achor, a thua'r gogledd yn edrych tua Gilgal, o flaen rhiw Adummim, yr hon sydd o du y deau i'r afon: y terfyn hefyd sydd yn myned hyd ddyfroedd En‐semes, a'i gwr eithaf sydd wrth En‐rogel.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ymlaen wedyn i Debir o Ddyffryn Achor, cyn troi i'r gogledd i gyfeiriad Gilgal (sydd gyferbyn â Bwlch Adwmim, i'r de o'r ceunant.) Yna heibio Dyfroedd En-shemesh cyn belled ag En-rogel.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna i'r terfyn o ddyffryn Achor i Debir, a thua'r gogledd i gyfeiriad Gilgal, sydd gyferbyn rhiw Adummim i'r de o'r nant, a throsodd at ddyfroedd En-semes ac ymlaen at En-rogel.