Joshua 15:8 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r terfyn sydd yn myned i fyny trwy ddyffryn meibion Hinnom, gan ystlys y Jebusiaid o du y deau, honno yw Jerwsalem: y terfyn hefyd sydd yn myned i fyny i ben y mynydd sydd o flaen dyffryn Hinnom, tua'r gorllewin, yr hwn sydd yng nghwr glyn y cewri, tua'r gogledd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Wedyn roedd y ffin yn dilyn Dyffryn Hinnom at y llethr sydd i'r de o dre'r Jebwsiaid (sef Jerwsalem). Yna i'r gorllewin, ac i gopa'r mynydd sydd gyferbyn â Dyffryn Ben-hinnom ac i'r gogledd o Ddyffryn Reffaïm.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Oddi yno i'r terfyn i fyny dyffryn Ben-hinnom i'r de o lechwedd y Jebusiaid, sef Jerwsalem, ac i ben y mynydd sy'n wynebu dyffryn Hinnom o'r gorllewin, yng nghwr gogleddol dyffryn Reffaim.