Joshua 17:1 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac yr oedd rhandir llwyth Manasse, (canys efe oedd gyntaf‐anedig Joseff,) i Machir, cyntaf‐anedig Manasse, tad Gilead: oherwydd ei fod efe yn rhyfelwr, yr oedd Gilead a Basan yn eiddo ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma'r tir gafodd ei roi i lwyth Manasse, mab hynaf Joseff. (Roedd ardaloedd Gilead a Bashan, i'r dwyrain o Afon Iorddonen, eisoes wedi eu rhoi i ddisgynyddion Machir — tad Gilead a mab hynaf Manasse — am ei fod yn filwr dewr.)
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna rhoddwyd rhandir i lwyth Manasse, oherwydd ef oedd cyntafanedig Joseff. Machir oedd cyntafanedig Manasse a thad Gilead, ac am ei fod yn rhyfelwr, iddo ef y daeth Gilead a Basan.