Joshua 17:11 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yn Issachar hefyd ac yn Aser yr oedd gan Manasse, Beth‐sean a'i threfydd, ac Ibleam a'i threfydd, a thrigolion Dor a'i threfydd, a thrigolion En‐dor a'i threfydd, a phreswylwyr Taanach a'i threfydd, a thrigolion Megido a'i threfydd; tair talaith.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ac roedd rhai trefi o fewn ffiniau Asher ac Issachar, gyda'r pentrefi o'u cwmpas, wedi eu rhoi i lwyth Manasse: Beth-shean, Ibleam, Dor, En-dor, Taanach, a Megido, (Naffeth ydy'r drydedd yn y rhestr).
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
O fewn Issachar ac Aser, eiddo Manasse oedd Beth-sean ac Ibleam a'u maestrefi, a hefyd y rhai oedd yn byw yn Dor, Endor, Taanach a Megido a'u maestrefi. Naffath yw'r drydedd dref uchod.