Joshua 17:14 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A meibion Joseff a lefarasant wrth Josua, gan ddywedyd, Paham y rhoddaist i mi, yn etifeddiaeth, un afael ac un rhan, a minnau yn bobl aml, wedi i'r ARGLWYDD hyd yn hyn fy mendithio?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma ddisgynyddion Joseff yn gofyn i Josua, “Pam wyt ti wedi rhoi cyn lleied o dir i ni? — dim ond un rhandir. Mae yna lot fawr ohonon ni, a diolch i'r ARGLWYDD dŷn ni'n dal i dyfu.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dywedodd disgynyddion Joseff wrth Josua, "Pam na roddaist inni ond un gyfran ac un rhandir yn etifeddiaeth, a ninnau'n bobl niferus, ac wedi'n bendithio mor helaeth gan yr ARGLWYDD?"