Joshua 17:16 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A meibion Joseff a ddywedasant, Ni bydd y mynydd ddigon i ni: hefyd y mae cerbydau heyrn gan yr holl Ganaaneaid sydd yn trigo yn y dyffryndir, gan y rhai sydd yn Beth‐sean a'i threfi, a chan y rhai sydd yng nglyn Jesreel.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond dyma nhw'n ateb, “Fyddai'r bryniau yna i gyd ddim digon, ac allwn ni ddim mynd i lawr i'r dyffryn — mae gan y Canaaneaid sy'n byw yn ardal Beth-shean a Dyffryn Jesreel, gerbydau rhyfel haearn.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dywedodd disgynyddion Joseff, "Nid yw'r mynydd-dir yn ddigon inni, ac y mae cerbydau heyrn gan yr holl Ganaaneaid sy'n byw ar y gwastatir yn Bethsean a'i maestrefi, ac yn nyffryn Jesreel."