Joshua 17:18 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eithr bydd y mynydd eiddot ti: canys coediog yw, arloesa ef; a bydd ei eithafoedd ef eiddot ti: canys ti a yrri ymaith y Canaaneaid, er bod cerbydau heyrn ganddynt, ac er eu bod yn gryfion.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Chi fydd piau'r bryniau i gyd. Er fod y tir yn goediog, gallwch ei glirio, a'i gymryd i gyd. A gallwch goncro'r Canaaneaid yn yr iseldir hefyd, er eu bod nhw'n gryfion a bod ganddyn nhw gerbydau rhyfel haearn.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
ond bydd y mynydddir hefyd yn eiddo ichwi; ac er mai coetir yw, cliriwch ef a'i feddiannu i'w gwr pellaf; yna byddwch yn disodli'r Canaaneaid, er eu bod yn gryfion a cherbydau heyrn ganddynt."