Joshua 17:3 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ond Salffaad mab Heffer, mab Gilead, mab Machir, mab Manasse, nid oedd iddo feibion, ond merched: a dyma enwau ei ferched ef; Mala, a Noa, Hogla, Milca, a Thirsa:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond doedd gan Seloffchad fab Cheffer ddim meibion, dim ond merched. (Cheffer oedd yn fab i Gilead, yn ŵyr i Machir ac yn or-ŵyr i Manasse.) Enwau merched Seloffchad oedd Machla, Noa, Hogla, Milca, a Tirtsa.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond am Seloffehad fab Heffer, fab Gilead, fab Machir, fab Manasse, nid oedd ganddo feibion ond merched yn unig, a dyma'u henwau: Mala, Noa, Hogla, Milca a Tirsa.