Joshua 18:13 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Y terfyn hefyd sydd yn myned oddi yno i Lus, gan ystlys Lus, honno yw Bethel, tua'r deau; a'r terfyn sydd yn disgyn i Ataroth‐adar, i'r mynydd sydd o du'r deau i Beth‐horon isaf.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd yn croesi wedyn i Lws, ar hyd y llethr sydd i'r de o Lws (sef Bethel). Yna i lawr i Atroth-adar sydd ar y bryn i'r de o Beth-choron Isaf.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Croesai'r terfyn oddi yno i Lus, ac i'r de ar hyd llechwedd Lus, sef Bethel, ac yna i lawr at Ataroth-adar ar y mynydd i'r de o Bethhoron Isaf.