Joshua 18:14 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r terfyn sydd yn tueddu, ac yn amgylchu cilfach y môr tua'r deau, o'r mynydd sydd ar gyfer Beth‐horon tua'r deau; a'i gyrrau eithaf ef sydd wrth Ciriath‐baal, honno yw Ciriath‐jearim, dinas meibion Jwda. Dyma du y gorllewin.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Wedyn roedd yn troi o'r fan honno i'r de, ar hyd ochr orllewinol y bryn ac i lawr i Ciriath-baal (sef Ciriath-iearim) un o'r trefi oedd ar dir llwyth Jwda. Dyna'r ffin i'r gorllewin.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr oedd y terfyn yn newid ei gyfeiriad ar yr ochr orllewinol, ac yn troi tua'r de o'r mynydd sy'n wynebu Beth-horon, ac ymlaen nes cyrraedd Ciriathbaal, sef Ciriath-jearim, tref yn perthyn i Jwda. Dyma'r ochr orllewinol.