Joshua 18:16 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Y terfyn hefyd sydd yn disgyn tua chwr y mynydd sydd ar gyfer glyn mab Hinnom, yr hwn sydd yn nyffryn y cewri tua'r gogledd; ac y mae efe yn disgyn i ddyffryn Hinnom, gan ystlys y Jebusiaid tua'r deau, ac yn dyfod i waered i ffynnon Rogel.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Wedyn roedd y ffin yn mynd i lawr at droed y mynydd sydd gyferbyn â Dyffryn Ben-hinnom sydd wrth ben gogleddol Dyffryn Reffaïm. Yna i lawr Dyffryn Hinnom at y llethr sydd i'r de o Jerwsalem, ac ymlaen i En-rogel.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna i'r terfyn i lawr at gwr y mynydd sy'n wynebu dyffryn Ben-hinnom, i'r gogledd o ddyffryn Reffaim; wedi hynny, i lawr dyffryn Hinnom i'r de o lechwedd y Jebusiaid at Enrogel.