Joshua 18:7 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ond ni bydd rhan i'r Lefiaid yn eich mysg chwi; oherwydd offeiriadaeth yr ARGLWYDD fydd eu hetifeddiaeth hwynt. Gad hefyd, a Reuben, a hanner llwyth Manasse, a dderbyniasant eu hetifeddiaeth o'r tu hwnt i'r Iorddonen, o du'r dwyrain, yr hon a roddodd Moses gwas yr ARGLWYDD iddynt.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond fydd llwyth Lefi ddim yn cael rhan o'r tir. Eu braint nhw ydy cael bod yn offeiriaid i'r ARGLWYDD. Ac mae llwythau Gad, Reuben a hanner llwyth Manasse eisoes wedi derbyn tir yr ochr arall i'r Afon Iorddonen, gan Moses, gwas yr ARGLWYDD.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ni fydd rhan i'r Lefiaid yn eich mysg, oherwydd offeiriadaeth yr ARGLWYDD yw eu hetifeddiaeth hwy; a hefyd y mae Gad a Reuben a hanner llwyth Manasse wedi cael eu hetifeddiaeth i'r dwyrain o'r Iorddonen o law Moses gwas yr ARGLWYDD."