Joshua 18:8 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r gwŷr a gyfodasant, ac a aethant: a Josua a orchmynnodd i'r rhai oedd yn myned i rannu'r wlad, gan ddywedyd, Ewch, a rhodiwch trwy'r wlad, a dosberthwch hi, a dychwelwch ataf fi; ac yma y bwriaf drosoch chwi goelbren gerbron yr ARGLWYDD yn Seilo.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Cyn i'r dynion gychwyn ar eu taith, dyma Josua yn gorchymyn iddyn nhw: “Ewch i grwydro drwy'r wlad, a'i mapio a paratoi arolwg llawn ohoni i mi. Yna dewch yn ôl ata i. Bydda i wedyn yn bwrw coelbren o flaen yr ARGLWYDD yma yn Seilo, i weld pa ardal fydd yn cael ei rhoi i bob llwyth.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pan oedd y dynion yn cychwyn ar eu taith i restru'r tir, gorchmynnodd Josua iddynt, "Ewch i fyny ac i lawr y wlad, a rhestrwch hi; yna dewch yn l ataf fi, ac fe fwriaf goelbren drosoch gerbron yr ARGLWYDD yma yn Seilo."