Joshua 19:34 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r terfyn sydd yn troi tua'r gorllewin i Asnoth‐Tabor, ac yn myned oddi yno i Huccoc; ac yn cyrhaeddyd i Sabulon o du y deau, ac yn cyrhaeddyd i Aser o du y gorllewin, ac i Jwda a'r Iorddonen tua chyfodiad haul.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Wedyn roedd yn troi i'r gorllewin at Asnoth-tabor ac ymlaen i Chwcoc. Roedd yn ffinio gyda llwyth Sabulon i'r de, a llwyth Asher i'r gorllewin, a Jwda wrth Afon Iorddonen yn y dwyrain.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr oedd y terfyn yn troi tua'r gorllewin yn Asnothtabor ac yn mynd oddi yno i Huccoc, gan gyffwrdd Sabulon i'r de, ac Aser i'r gorllewin, a Jwda ger yr Iorddonen i'r dwyrain.