Joshua 19:51 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Dyma yr etifeddiaethau a roddodd Eleasar yr offeiriad, a Josua mab Nun, a phennau tadau llwythau meibion Israel, yn etifeddiaeth, wrth goelbren, yn Seilo, o flaen yr ARGLWYDD, wrth ddrws pabell y cyfarfod. Felly y gorffenasant rannu'r wlad.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma sut cafodd y tir ei rannu gan Eleasar yr offeiriad, Josua fab Nwn ac arweinwyr llwythau Israel. Cafodd y tir ei rannu drwy fwrw coelbren o flaen yr ARGLWYDD wrth y fynedfa i Babell Presenoldeb Duw yn Seilo. A dyna sut gwnaethon nhw orffen rhannu'r tir.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dyma'r etifeddiaethau a rannodd yr offeiriad Eleasar, a Josua fab Nun a'r pennauteuluoedd, trwy goelbren, i lwythau Israel yn Seilo gerbron yr ARGLWYDD, yn nrws pabell y cyfarfod. A gorffenasant rannu'r wlad.