Joshua 2:14 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r gwŷr a ddywedasant wrthi, Ein heinioes a roddwn i farw drosoch, (os chwi ni fynegwch ein neges hyn,) pan roddo yr ARGLWYDD i ni y wlad hon, oni wnawn â chwi drugaredd a gwirionedd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A dyma'r dynion yn addo iddi, “Boed i ni dalu gyda'n bywydau os cewch chi'ch lladd! Os gwnei di ddim dweud wrth neb amdanon ni, byddwn ni'n cadw'n haddewid i ti pan fydd yr ARGLWYDD yn rhoi'r wlad yma i ni.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dywedodd y dynion wrthi, "Byddwn yn barod i farw yn eich lle, dim ond i chwi beidio datgelu'n cyfrinach; pan fydd yr ARGLWYDD wedi rhoi inni'r wlad, fe wnawn garedigrwydd a thegwch thi."