Joshua 2:16 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A hi a ddywedodd wrthynt, Ewch i'r mynydd, rhag i'r erlidwyr gyfarfod â chwi: ac ymguddiwch yno dridiau, nes dychwelyd yr erlidwyr; ac wedi hynny ewch i'ch ffordd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Ewch i gyfeiriad y bryniau,” meddai wrthyn nhw. “Fydd y dynion sydd ar eich holau chi ddim yn dod o hyd i chi wedyn. Cuddiwch yno am dri diwrnod, i roi cyfle iddyn nhw ddod yn ôl. Wedyn gallwch fynd ar eich ffordd.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dywedodd wrthynt, "Ewch tua'r mynydd, rhag i'r rhai sy'n eich ymlid daro arnoch; cuddiwch yno dridiau, nes i'r ymlidwyr ddychwelyd, ac wedyn ewch eich ffordd eich hun."