Joshua 2:18 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Wele, pan ddelom ni i'r wlad, rhwym y llinyn yma o edau goch yn y ffenestr y gollyngaist ni i lawr trwyddi: casgl hefyd dy dad, a'th fam, a'th frodyr, a holl dylwyth dy dad, atat i'r tŷ yma.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan fyddwn ni'n ymosod ar y wlad, rhwyma'r rhaff goch yma iddi hongian allan o'r ffenest wnaethon ni ddianc trwyddi. A rhaid i ti gasglu dy deulu i gyd at ei gilydd yn y tŷ — dy dad, dy fam, dy frodyr a dy chwiorydd, a phawb arall.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
pan fyddwn yn dod i mewn i'r wlad, os na fyddi wedi rhwymo'r edau ysgarlad hon yn y ffenestr y gollyngaist ni drwyddi, ac wedi galw ynghyd i'r tu375? dy dad a'th fam, dy frodyr a'th deulu i gyd.