Joshua 2:22 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A hwy a aethant, ac a ddaethant i'r mynydd; ac a arosasant yno dridiau, nes i'r erlidwyr ddychwelyd. A'r erlidwyr a'u ceisiasant ar hyd yr holl ffordd; ond nis cawsant.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma nhw'n mynd i'r bryniau, ac yn aros yno am dri diwrnod — digon o amser i'r dynion oedd yn chwilio amdanyn nhw fynd yn ôl. Roedd y rheiny wedi bod yn edrych amdanyn nhw ym mhobman ar hyd y ffordd, ond wedi methu dod o hyd iddyn nhw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Aethant hwythau, a chyrraedd y mynyddoedd ac aros yno dridiau, nes i'r ymlidwyr ddychwelyd.