Joshua 2:23 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Felly y ddau ŵr a ddychwelasant, ac a ddisgynasant o'r mynydd, ac a aethant drosodd, a daethant at Josua mab Nun; a mynegasant iddo yr hyn oll a ddigwyddasai iddynt:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna dyma'r ddau ddyn yn troi am yn ôl. Dyma nhw'n dod i lawr o'r bryniau, croesi'r Afon Iorddonen, a mynd at Josua i roi adroddiad iddo o beth oedd wedi digwydd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Bu'r ymlidwyr yn chwilio amdanynt bob cam o'r ffordd, ond heb eu cael. Yna daeth y ddau i lawr o'r mynyddoedd yn eu hl, a chroesi drosodd at Josua fab Nun ac adrodd wrtho bopeth a ddigwyddodd iddynt,