Joshua 20:4 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phan ffo efe i un o'r dinasoedd hynny, a sefyll wrth ddrws porth y ddinas, a mynegi ei achosion lle y clywo henuriaid y ddinas honno; cymerant ef atynt i'r ddinas, a rhoddant le iddo, fel y trigo gyda hwynt.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dylai'r un sydd wedi lladd rhywun trwy ddamwain, ddianc i un o'r trefi yma, a mynd i'r llys wrth giât y dref i gyflwyno ei achos i'r arweinwyr yno. Yna byddan nhw'n gadael iddo fynd i mewn i'r dref i fyw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pan fydd rhywun yn ffoi i un o'r dinasoedd hyn, y mae i sefyll wrth fynediad porth y ddinas, ac adrodd ei achos yng nghlyw henuriaid y ddinas honno. Os byddant yn caniatu iddo ddod i mewn atynt i'r ddinas, byddant yn nodi lle ar ei gyfer, a chaiff aros yno gyda hwy.