Joshua 20:6 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a drig yn y ddinas honno, nes iddo sefyll o flaen y gynulleidfa i farn, ac nes marw yr archoffeiriad fyddo yn y dyddiau hynny: yna dychweled y llofrudd, a deued i'w ddinas ac i'w dŷ ei hun; sef y ddinas yr hon y ffoesai efe ohoni.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond rhaid iddo aros yn y dref nes bydd llys cyhoeddus wedi dod i ddyfarniad ar ei achos a'r un sy'n archoffeiriad ar y pryd wedi marw. Wedyn bydd yn cael mynd yn ôl i'r dref lle roedd yn byw cyn iddo ddianc.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Caiff aros yn y ddinas honno nes iddo sefyll ei brawf gerbron y gynulleidfa. Ar farwolaeth y sawl fydd yn archoffeiriad ar y pryd, caiff y lleiddiad fynd yn l i'w gartref yn y dref y ffodd ohoni."