Joshua 21:27 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac i feibion Gerson, o deuluoedd y Lefiaid, y rhoddasid, o hanner arall llwyth Manasse, yn ddinas nodded y llofrudd, Golan yn Basan a'i meysydd pentrefol, a Beestera a'i meysydd pentrefol: dwy ddinas.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma'r trefi gafodd eu rhoi i deuluoedd disgynyddion Gershon, o lwyth Lefi: O hanner llwyth Manasse dyma nhw'n rhoi Golan yn Bashan (oedd yn dref lloches i rywun oedd wedi lladd person arall) a Beeshtera, a'r tir pori o'u cwmpas nhw. Dwy dref i gyd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gan hanner llwyth Manasse cafodd y Gersoniaid o blith teuluoedd y Lefiaid Golan, dinas noddfa i leiddiaid yn Basan, a hefyd Beestera, bob un 'i phorfeydd: dwy ddinas.