Joshua 21:4 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A daeth y coelbren allan dros deuluoedd y Cohathiaid: ac yr oedd i feibion Aaron yr offeiriad, y rhai oedd o'r Lefiaid, allan o lwyth Jwda, ac o lwyth Simeon, ac o lwyth Benjamin, dair dinas ar ddeg, wrth goelbren.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Y teuluoedd oedd yn ddisgynyddion i Cohath gafodd y rhai cyntaf. Cafodd y Lefiaid oedd yn ddisgynyddion Aaron yr offeiriad un deg tair o drefi o diriogaeth llwythau Jwda, Simeon a Benjamin.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pan ddisgynnodd y coelbren ar deuluoedd y Cohathiaid, cafodd y Lefiaid a hanoedd o Aaron yr offeiriad dair dinas ar ddeg trwy'r coelbren gan lwythau Jwda, Simeon a Benjamin.