Joshua 21:8 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A meibion Israel a roddasant i'r Lefiaid y dinasoedd hyn, a'u meysydd pentrefol, fel y gorchmynasai yr ARGLWYDD trwy law Moses, wrth goelbren.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma'r trefi, gyda'u tir pori, wnaeth pobl Israel eu rhoi i lwyth Lefi, fel roedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses:
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Rhoddodd yr Israeliaid y dinasoedd hyn a'u porfeydd i'r Lefiaid trwy'r coelbren, fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses.