Joshua 22:10 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phan ddaethant i gyffiniau yr Iorddonen, y rhai sydd yng ngwlad Canaan, meibion Reuben, a meibion Gad, a hanner llwyth Manasse, a adeiladasant yno allor wrth yr Iorddonen, allor fawr mewn golwg.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond pan oedden nhw'n dal ar ochr Canaan i'r Iorddonen dyma nhw'n adeiladu allor fawr drawiadol yn Geliloth, wrth ymyl yr afon.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pan ddaethant i Geliloth ger yr Iorddonen, cododd y Reubeniaid, y Gadiaid a hanner llwyth Manasse allor yno yng ngwlad Canaan ger yr Iorddonen; yr oedd yn allor nodedig o fawr.