Joshua 22:16 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Fel hyn y dywed holl gynulleidfa yr ARGLWYDD, Pa gamwedd yw hwn a wnaethoch yn erbyn DUW Israel, gan ddychwelyd heddiw oddi ar ôl yr ARGLWYDD, pan adeiladasoch i chwi allor, i wrthryfela heddiw yn erbyn yr ARGLWYDD?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Mae pobl Israel i gyd eisiau gwybod pam ydych chi wedi bradychu Duw Israel fel yma. Beth wnaeth i chi droi cefn ar yr ARGLWYDD ac adeiladu eich allor eich hunain? Sut allwch chi wrthryfela yn erbyn yr ARGLWYDD fel yma?
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Y mae holl gynulleidfa'r ARGLWYDD yn gofyn, 'Beth yw'r brad hwn yr ydych wedi ei wneud yn erbyn Duw Israel trwy gefnu ar yr ARGLWYDD, ac adeiladu allor heddiw mewn gwrthryfel yn ei erbyn?