Joshua 22:19 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac od yw gwlad eich meddiant chwi yn aflan, deuwch drosodd i wlad meddiant yr ARGLWYDD, yr hon y mae tabernacl yr ARGLWYDD yn aros ynddi, a chymerwch feddiant yn ein mysg ni: ond na wrthryfelwch yn erbyn yr ARGLWYDD, ac na childynnwch i'n herbyn ninnau, trwy adeiladu ohonoch i chwi eich hun allor, heblaw allor yr ARGLWYDD ein DUW.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Os ydych chi'n teimlo fod eich tir chi yr ochr yma i'r Iorddonen yn aflan, dewch drosodd i fyw gyda ni ar dir yr ARGLWYDD ei hun, lle mae Pabell Presenoldeb Duw. Ond peidiwch troi yn erbyn yr ARGLWYDD, a'n tynnu ni i mewn i'r peth, drwy godi allor arall i chi'ch hunain. Dim ond un allor sydd i fod i'r ARGLWYDD ein Duw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Os yw'r wlad a feddiannwyd gennych yn aflan, dewch drosodd i wlad sydd ym meddiant yr ARGLWYDD, lle saif tabernacl yr ARGLWYDD, a derbyniwch ran yn ein plith ni. Peidiwch gwrthryfela yn erbyn yr ARGLWYDD, na ninnau, drwy adeiladu ichwi unrhyw allor ar wahn i allor yr ARGLWYDD ein Duw.