Joshua 22:23 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Os adeiladasom i ni allor i droi oddi ar ôl yr ARGLWYDD, neu os offrymasom arni boethoffrwm, neu fwyd‐offrwm, neu os aberthasom arni ebyrth hedd; yr ARGLWYDD ei hun a'i gofynno:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Wnaethon ni ddim codi'r allor i ni'n hunain gyda'r bwriad o droi cefn ar yr ARGLWYDD, nac i gyflwyno offrymau i'w llosgi, offrymau o rawn neu offrymau i ofyn am ei fendith arni. Bydd yr ARGLWYDD ei hun yn ein cosbi ni os ydyn ni'n dweud celwydd!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Os bu inni adeiladu allor i droi oddi wrth yr ARGLWYDD, ac i offrymu arni boethoffrymau a bwydoffrymau, neu i ddarparu heddoffrymau, bydded i'r ARGLWYDD ei hun ein dwyn i gyfrif.