Joshua 22:24 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac onid rhag ofn y peth yma y gwnaethom hyn; gan ddywedyd, Ar ôl hyn eich meibion chwi a adroddant wrth ein meibion ninnau, gan ddywedyd, Beth sydd i chwi a wneloch ag ARGLWYDD DDUW Israel?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Na! Poeni oedden ni y byddai eich disgynyddion chi ryw ddydd yn dweud wrth ein disgynyddion ni, ‘Pa gysylltiad sydd gynnoch chi â'r ARGLWYDD, Duw Israel?
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yn hytrach gwnaethom hyn rhag ofn i'ch plant chwi yn y dyfodol ddweud wrth ein plant ni, 'Beth sydd a wneloch chwi ag ARGLWYDD Dduw Israel?