Joshua 22:25 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys yr ARGLWYDD a roddodd yr Iorddonen hon yn derfyn rhyngom ni a chwi: meibion Reuben, a meibion Gad, nid oes i chwi ran yn yr ARGLWYDD. Felly y gwnâi eich meibion chwi i'n meibion ni beidio ag ofni yr ARGLWYDD.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae'r ARGLWYDD wedi gosod yr Afon Iorddonen yn ffin glir rhyngon ni â chi. Does gynnoch chi, bobl Reuben a Gad, ddim hawl i addoli'r ARGLWYDD.’ Roedd gynnon ni ofn y byddai eich disgynyddion chi yn rhwystro ein disgynyddion ni addoli'r ARGLWYDD.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Y mae'r ARGLWYDD wedi gosod yr Iorddonen yn ffin rhyngom ni a chwi, llwythau Reuben a Gad; nid oes gennych chwi ran yn yr ARGLWYDD.' Yna gallai eich plant chwi rwystro'n plant ni rhag addoli'r ARGLWYDD.