Joshua 22:27 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eithr i fod yn dyst rhyngom ni a chwi, a rhwng ein hiliogaeth ni ar ein hôl, i gael ohonom wasanaethu gwasanaeth yr ARGLWYDD ger ei fron ef, â'n poethoffrymau, ac â'n hebyrth, ac â'n hoffrymau hedd; fel na ddywedo eich meibion chwi ar ôl hyn wrth ein meibion ni, Nid oes i chwi ran yn yr ARGLWYDD.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
ond i'n hatgoffa ni a chi, a'n disgynyddion ni hefyd, mai ei gysegr ydy'r lle i ni fynd i addoli'r ARGLWYDD, a chyflwyno aberthau ac offrymau iddo. Wedyn, yn y dyfodol, fydd eich disgynyddion chi ddim yn gallu dweud wrth ein disgynyddion ni, ‘Does gynnoch chi ddim perthynas â'r ARGLWYDD.’
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
ond yn dyst rhyngom ni a chwi, a rhwng y cenedlaethau a ddaw ar ein hl, ein bod ninnau hefyd i gael gwasanaethu'r ARGLWYDD 'n poethoffrymau a'n hebyrth a'n heddoffrymau, fel na all eich plant chwi edliw i'n plant ni yn y dyfodol, "Nid oes gennych chwi ran yn yr ARGLWYDD".'