Joshua 22:28 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Am hynny y dywedasom, Pan ddywedont hwy felly wrthym ni, neu wrth ein hepil ar ôl hyn; yna y dywedwn ninnau, Gwelwch lun allor yr ARGLWYDD, yr hon a wnaeth ein tadau ni, nid i boethoffrwm, nac i aberth; ond i fod yn dyst rhyngom ni a chwi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedden ni'n tybio, os byddai pethau felly'n cael eu dweud wrthon ni a'n disgynyddion, gallen ni ateb, ‘Edrychwch ar y copi yma o allor yr ARGLWYDD gafodd ei chodi gan ein hynafiaid. Dim allor i gyflwyno offrymau i'w llosgi nac aberthu arni ydy hi, ond un i'n hatgoffa o'r berthynas sydd rhyngon ni.’
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr oeddem yn meddwl, 'Petaent yn dweud hyn wrthym ac wrth ein plant yn y dyfodol, byddem ninnau'n dweud, "Edrychwch ar y copi o allor yr ARGLWYDD a wnaeth ein hynafiaid, nid ar gyfer poethoffrymau nac aberth, ond yn dyst rhyngom ni a chwi".'