Joshua 22:29 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Na ato DUW i ni wrthryfela yn erbyn yr ARGLWYDD a dychwelyd heddiw oddi ar ôl yr ARGLWYDD; gan adeiladu allor i boethoffrwm, i fwyd‐offrwm, neu i aberth, heblaw allor yr ARGLWYDD ein DUW yr hon sydd gerbron ei dabernacl ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Fydden ni ddim yn meiddio troi yn erbyn yr ARGLWYDD a gwrthod ei ddilyn drwy godi allor arall i gyflwyno arni offrymau i'w llosgi, aberthau ac offrymau i ofyn am ei fendith. Allor yr ARGLWYDD ein Duw o flaen ei Dabernacl ydy'r unig un i wneud hynny arni.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pell y bo oddi wrthym ein bod yn gwrthryfela yn erbyn yr ARGLWYDD, a chefnu arno trwy godi unrhyw allor ar gyfer poethoffrwm neu fwydoffrwm neu aberth heblaw allor yr ARGLWYDD ein Duw sydd o flaen ei dabernacl."