Joshua 22:31 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Phinees mab Eleasar yr offeiriad a ddywedodd wrth feibion Reuben, ac wrth feibion Gad, ac wrth feibion Manasse, Heddiw y gwybuom fod yr ARGLWYDD yn ein plith; oherwydd na wnaethoch y camwedd hwn yn erbyn yr ARGLWYDD: yn awr gwaredasoch feibion Israel o law yr ARGLWYDD.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A dyma Phineas fab Eleasar, yr offeiriad, yn dweud wrthyn nhw: “Nawr, dŷn ni'n gwybod fod yr ARGLWYDD gyda ni. Dych chi ddim wedi bod yn anufudd iddo. Dych chi wedi achub pobl Israel rhag cael eu cosbi gan yr ARGLWYDD.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ac meddai Phinees, mab yr offeiriad Eleasar, wrth y Reubeniaid, y Gadiaid a'r Manasseaid, "Yn awr fe wyddom fod yr ARGLWYDD yn ein plith; oherwydd nid ydych wedi gwneud y brad hwn yn erbyn yr ARGLWYDD, ond wedi gwaredu'r Israeliaid o'i law."