Joshua 22:7 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac i hanner llwyth Manasse y rhoddasai Moses etifeddiaeth yn Basan; ac i'r hanner arall y rhoddodd Josua, gyda'u brodyr, tu yma i'r Iorddonen tua'r gorllewin. Hefyd pan ollyngodd Josua hwynt i'w pebyll, yna efe a'u bendithiodd hwynt;
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
(Roedd Moses wedi rhoi tir yn Bashan i hanner llwyth Manasse, a tir i'r gorllewin o Afon Iorddonen i'r hanner arall, gyda gweddill pobl Israel.) Pan anfonodd Josua nhw adre, dyma fe'n eu bendithio nhw:
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
I hanner llwyth Manasse yr oedd Moses wedi rhoi tir yn Basan; i'r hanner arall rhoddodd Josua dir gyda'u perthnasau i'r gorllewin o'r Iorddonen. Wrth eu hanfon adref a'u bendithio,