Joshua 22:8 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a lefarodd wrthynt, gan ddywedyd, Dychwelwch â chyfoeth mawr i'ch pebyll, ag anifeiliaid lawer iawn, ag arian, ac ag aur, â phres hefyd, ac â haearn, ac â gwisgoedd lawer iawn: rhennwch â'ch brodyr anrhaith eich gelynion.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Ewch adre, a rhannu gyda'ch pobl yr holl gyfoeth dych chi wedi ei gymryd gan eich gelynion! — lot fawr o anifeiliaid, arian, aur, pres, haearn, a lot fawr o ddillad hefyd.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
dywedodd Josua wrthynt, "Dychwelwch adref chyfoeth mawr a llawer iawn o anifeiliaid, hefyd arian, aur, pres a haearn, a llawer iawn o ddillad; rhannwch 'ch perthnasau ysbail eich gelynion."