Joshua 22:9 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A meibion Reuben, a meibion Gad, a hanner llwyth Manasse, a ddychwelasant, ac a aethant ymaith oddi wrth feibion Israel, o Seilo, yr hon sydd yng ngwlad Canaan, i fyned i wlad Gilead, i wlad eu meddiant hwy, yr hon a feddianasant, wrth orchymyn yr ARGLWYDD trwy law Moses.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly dyma lwythau Reuben, Gad, a hanner llwyth Manasse yn gadael gweddill pobl Israel yn Seilo yn Canaan, a troi am adre i'w tir eu hunain yn Gilead — sef y tir wnaeth yr ARGLWYDD ei roi iddyn nhw trwy Moses.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dychwelodd y Reubeniaid, y Gadiaid a hanner llwyth Manasse o Seilo yng ngwlad Canaan, a gadael yr Israeliaid i fynd i wlad Gilead, y diriogaeth a feddiannwyd ganddynt yn l gair yr ARGLWYDD drwy Moses.