Joshua 23:13 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Gan wybod gwybyddwch, na yrr yr ARGLWYDD eich DUW y cenhedloedd hyn mwyach allan o'ch blaen chwi; ond byddant i chwi yn fagl ac yn dramgwydd, ac yn ffrewyll yn eich ystlysau, ac yn ddrain yn eich llygaid, nes eich difa chwi allan o'r wlad dda yma yr hon a roddodd yr ARGLWYDD eich DUW i chwi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
gallwch fod yn siŵr y bydd yr ARGLWYDD eich Duw yn stopio eu gyrru nhw allan o'ch blaen chi. Byddan nhw'n eich trapio chi. Fyddan nhw'n achosi dim byd ond trwbwl i chi, fel chwip ar eich cefnau neu ddrain yn eich llygaid. A byddwch chi'n diflannu o'r wlad dda yma mae'r ARGLWYDD eich Duw wedi ei rhoi i chi.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
gallwch fod yn gwbl sicr na fydd yr ARGLWYDD eich Duw yn parhau i yrru'r cenhedloedd hyn allan o'ch blaen. Yn hytrach byddant yn fagl ac yn dramgwydd ichwi, yn chwip ar eich cefnau ac yn ddrain yn eich llygaid, nes y byddwch wedi'ch difa o'r wlad dda hon a roddodd yr ARGLWYDD eich Duw i chwi.