Joshua 23:15 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac fel y daeth i chwi bob peth daionus a addawodd yr ARGLWYDD eich DUW wrthych; felly y dwg yr ARGLWYDD arnoch chwi bob peth drygionus, nes eich difa chwi allan o'r wlad dda yma a roddodd yr ARGLWYDD eich DUW i chwi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond gallwch fod yr un mor siŵr y bydd yr ARGLWYDD yn dod â barn a dinistr arnoch chi os byddwch chi'n anufudd iddo. Byddwch yn cael eich gyrru allan o'r wlad dda yma mae e wedi ei rhoi i chi.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Fel y daeth ichwi bopeth da a addawodd yr ARGLWYDD eich Duw, felly hefyd bydd yr ARGLWYDD yn dwyn arnoch bopeth drwg, nes eich difa o'r wlad dda hon a roddodd yr ARGLWYDD eich Duw ichwi.