Joshua 23:16 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Pan droseddoch gyfamod yr ARGLWYDD eich DUW, a orchmynnodd efe i chwi, a myned a gwasanaethu duwiau dieithr, ac ymgrymu iddynt; yna y llidia digofaint yr ARGLWYDD yn eich erbyn chwi, ac y cyfrgollir chwi yn ebrwydd o'r wlad dda yma a roddodd efe i chwi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Os byddwch chi'n torri amodau'r ymrwymiad mae'r ARGLWYDD eich Duw wedi ei wneud, ac yn dechrau addoli a gweddïo ar dduwiau eraill, bydd yr ARGLWYDD yn digio gyda chi, a byddwch chi'n diflannu o'r wlad dda yma mae e wedi ei rhoi i chi.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Os torrwch gyfamod yr ARGLWYDD eich Duw, y cyfamod a orchmynnodd ef, a mynd a gwasanaethu duwiau estron a'u haddoli, yna bydd digofaint yr ARGLWYDD yn cynnau yn eich erbyn, ac yn fuan byddwch wedi'ch difa o'r wlad dda a roddodd ef ichwi."